Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2019
Amser:
08.30 -
08.45
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Russell George AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Anfonodd Darren Millar ei ymddiheuriadau ac roedd Russell George yn bresennol yn ei le.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Llywodraeth yn tynnu'r datganiad llafar gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar Fesurau Datblygu Economaidd yn ôl.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2019
· Cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019 (30 munud)
Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2019 -
· Adroddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (30 munud)
Dydd Mercher 18 Medi 2019 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Endosgopi yng Nghymru (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i drefnu dadl ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019 ar 10 Gorffennaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar amserlen y Bil a nodwyd y sylwadau yn y llythyr yn ymwneud â Biliau posibl eraill.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer craffu gan y pwyllgor, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 11 Gorffennaf. Nodwyd ganddynt fod y llywodraeth yn cynnig y dylid trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 16 Gorffennaf.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2020, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf 2020.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y cyfarfod llawn yn ystod cyfnod toriad yr haf a chytunwyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad.